Huw M

Bilingual blurts on music // Eang yw'r byd i bawb


1 Comment

Mae Utica wedi cyrraedd…

[This blog post is also available in English]

Mae’r albwm newydd Utica wedi cyrraedd yn ôl o’r argraffwyr. Dyma benllanw misoedd o gyfansoddi, trefnu, recordio, ail-recordio, cymysgu, mastro a chrafu pen. Ac mae’r cyfan yn cael ei becynnu mewn un albwm, un cyfanwaith.

Efallai mod i’r hen ffasiwn, ond dwi yn hoffi dal albwm yn fy llaw – copi caled lle mae’r  gwaith celf a’r elfen weledol, gyffyrddadwy, yn ran annatod o’r cyfanwaith. (Pretentious? Moi?)

utica_bocs

Ar gyfer yr albwm newydd rydan ni wedi cael y pleser o weithio gyda’r artist a’r ffotograffydd Kirsten McTernan. Efallai fyddwch chi’n gyfarwydd efo gwaith Kirsten – mae ganddi ddawn arbennig i adlewyrchu hanfod a theimlad cerddoriaeth mewn lluniau.

Mae’r albwm Utica wedi ei recordio yn ‘fyw’ – y band i gyd efo’n gilydd yn y stiwdio yn perfformio’n fyw – ac mae ‘na rhywbeth ychydig yn amrwd, hen ffasiwn am y sain. Ar lefel dechnegol, fe allai’r record fod wedi ei recordio 50 mlynedd yn ôl… does dim effeithiau cyfoes, dim triciau sain 21ain ganrif.

Roedden ni’n awyddus i gyfleu y teimlad mwy clasurol hynny yng ngwaith celf a chlawr yr albwm. Felly, heb oedi ymhellach, dyma ffrwyth creadigrwydd Kirsten McTernan. Mae’r lluniau wedi eu tynnu mewn lleoliadau amrywiol yn ninas Caerdydd.

Huw M - Utica - cover backoriginal _KMT3765 copy 1 2

Gyda llaw, y diweddaraf am yr albwm ydy hyn… mi fydd Utica allan ar Dachwedd 13eg ar label I KA CHING, gyda sengl ddwbwl yn cael ei rhyddhau cyn hynny (I wanted you to cry // Sŵn y galon fach yn torri). Bydd gig lansio ar Dachwedd 13 yn ardal Caerdydd, a thaith i ddilyn yn ystod y gaeaf. Mwy o fanylion i ddod.


Leave a comment

Perfformiad cyntaf yr albym newydd

[This blog post is also available in English]

Ar 12 Gorffennaf 2015 roedden ni’n perfformio yng Nghanolfan Chapter yng Nghaerdydd. Dyma oedd ein perfformiad cyntaf o’r albym newydd, mwy neu lai, yn gyfan. Ar y llwyfan, ges i gwmni Bethan Mai ar yr accordion/canu, Iolo Whelan ar y drymiau/offerynnau taro/canu ac, am y tro cyntaf, y chwiorydd Jacqueline a Deborah Marshall, sydd hefyd yn canu ar yr albym. Mae The Marshall Sisters yn ychwanegu dylanwad gospel i’r sain, sy’n hyfryd.

Roedd y ffotograffydd Dan Green yno i dynnu lluniau o’r prawf-sain a’r gig (cliciwch ar y llun cyntaf i fynd drwy’r oriel luniau)…


Gyda llaw, bu Dan Green hefyd yn tynnu lluniau yn y stiwdio pan roedden ni’n recordio’r albym. Gallwch weld y rhain mewn blog arall – Daeth Dan am dro i’r stiwdio.

Mi wnai gloi gydag ychydig o gerddoriaeth. Roedd band newydd ac arbennig o ogledd Cymru yn ein cefnogi yn Chapter o’r enw Anelog – cymrwch 4 munud ac 1 eiliad o’ch amser i fwynhau eu cân Melynllyn. Mae hi werth pob eiliad…

 


1 Comment

Anial dir

[This blog is also available in English]

Mae cerdded i lawr Stryd Fawr Bangor y dyddiau yma yn codi hiraeth am siop Recordiau Cob.

cob2

Recordiau Cob heddiw

Pan oeddwn i’n fy arddegau, roeddwn i’n treulio oriau lawer yn Recordiau Cob, neu Cob Records fel oedd pawb yn ei alw. Roedd hi’n siop hynod cŵl (os gai ddefnyddio’r gair uncool yna), eitha dirgel a ddim yn rhywle byddech chi’n mynd efo’ch rhieni. Roedd y ddau lawr yn llawn dop o recordiau newydd, ail law, anarferol, anhygoel a’r staff yn gwybod eu stwff.

Mae’r labeli bach melyn a gwyn sydd yn addurno gymaint o feinyls, casetiau a CDs sydd yn fy nghasgliad personol yn tystio i’r amser a’r arian nes i wario’n hapus yn y siop.

cob

Dyma le nes i brynu recordiau dylanwadol f’arddegau gan fandiau fel Smashing Pumpkins, Nirvana, The Primitives, Snuff, Ned’s Atomic Dustbin ac, yn bwysicach efallai, bandiau Cymraeg fel Y Cyrff, Ffa Coffi Pawb, Hanner Pei, Yr Anhrefn a Topper.

Dyma oedd sain ein ieuenctid – i mi, fel nifer fawr o fy ffrindiau, roedd cerddoriaeth Gymraeg yn llawn mor gyffrous, ac yn fwy perthnasol, nag unrhyw beth oedd yn dod o du allan i Gymru. Ac un o gryfderau mawr y ‘Sîn Roc Gymraeg’ oedd y cymysgedd anarferol o ddylanwadau a genres – roedd grwpiau pync yn rhannu llwyfan efo grwpiau electronig a, rhywsut, roedd y cyfan yn gwneud synnwyr. A dyma pam, mae’n debyg, y des i ar draws y grŵp electronig, synth-pop arbrofol Eirin Peryglus – arddull o gerddoriaeth nad oeddwn i’n gwybod dim amdani nac yn gwrando dim arni, ar wahân i yn y Gymraeg!

Mae cerddoriaeth Eirin Peryglus yn gwbl hudolus, ac mae’n dal ei thir heddiw. Mae gen i gof clir o’u gweld yn perfformio yn y Babell Roc ar faes y Steddfod, ond yr hyn wnaeth yr argraff fwyaf arna’i oedd gweld eu feinyl efo ysgrifen pinc drosto yn ffenest siop Cob Records… cariad ar yr olwg gyntaf!

Un o ganeuon mwyaf adnabyddus y band, ac un o fy ffefrynnau, ydy ‘Anial Dir’ – cân hiraethus a thorcalonnus, wefreiddiol. Rydan ni wedi recordio fersiwn ohoni ar gyfer yr albym newydd. Fel fyddech chi’n disgwyl, mae’n wahanol iawn i’r gwreiddiol, ond gobeithio ein bod ni’n llwyddo i ddal emosiwn a hanfod y gân, a gwneud rhyw fath o gyfiawnder â hi.

Mae’r oes wedi newid, do, ac er mor ddefnyddiol ydy gwefannau a gwasanaethau ar-lein sy’n ffrydio cerddoriaeth, dwi’n dal i gael gwefr ac addysg o fynd i siopau recordiau annibynnol da. Diolch am lefydd fel y fythol ifanc Spillers Records yng Nghaerdydd, sydd wedi rhoi llwyfan pwysig i gerddorion o Gymru am ddegawdau lu ac yn parhau i fod mor berthnasol ag y buodd erioed.

Un darn o newyddion cyn cloi…. rydan ni newydd gyhoeddi bydd yr albym newydd yn cael ei ryddhau yn yr haf ar y label arbennig I Ka Ching. Mwy o fanylion am hyn i ddod. Am y tro, mwynhewch fersiwn wreiddiol Anial Dir, gan yr anhygoel Eirin Peryglus


1 Comment

Si hwi hwi, er cof am Merêd

[This blog is also available in English]

Mae ‘na ddylanwad gospel ar yr albym newydd ‘ma rydan ni’n recordio, yn rhannol oherwydd cyfraniad dwy gantores arbennig dwi ‘di bod yn cydweithio efo nhw yn ystod y misoedd diwethaf – y chwiorydd Marshall o Gaerdydd. Ond yn y blog yma dwi isio sôn am un gân yn arbennig o’r albym (sydd wedi dod yn dipyn o ffefryn i mi a’r band), sef y gân werin Si hwi hwi – enghraifft o hwiangerdd ‘spiritual’ Gymraeg.

150 mlynedd yn ôl i eleni daeth Rhyfel Cartref America i ben, a chyda hynny diwedd swyddogol i gaethwasanaeth yn yr Unol Daleithiau. Ac mae ‘na nifer o gysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a’r ymgyrch i ddiddymu caethwasiaeth yn America ar y pryd – yn emynau, cerddi a chaneuon Cymraeg gafodd eu cyfansoddi er enghraifft. Ac mae Si hwi hwi yn perthyn i’r traddodiad anrhydeddus hwnnw.

Awdur geiriau Si hwi hwi ydy Rowland Walter, neu ‘Ionoron Glan Dwyryd’ i roi ei enw barddol iddo – chwarelwr a bardd o ardal Blaenau Ffestiniog ymfudodd i Vermont yn America tua 1853, a dod yn weithgar efo’r mudiad gwrth-gaethwasiaeth.

Mae’r gân wedi ei chyfansoddi o bersbectif mam yn canu i’w phlentyn y noson cyn i’r ddau gael eu dwyn o’i gilydd, eu gwahanu a chael eu ‘gwerthu’ fel caethweision. Mae ‘na dyndra amlwg rhwng yr alaw swynol, hardd a’r geiriau tywyll, dirdynnol.

Ac mae hanes diweddar y gân yn bwysig. Hyd y gwelaf i, mae’r diolch i’r diweddar Dr Meredydd Evans (Merêd) fod y gân wedi goroesi o gwbl. Fel fydd nifer ohonoch yn gwybod – roedd Merêd yn ganwr, yn ysgolhaig, yn athronydd, yn ymgyrchydd iaith ac yn arbenigwr ar ganu gwerin ac yn gyfrifol am gyhoeddi nifer o gyfrolau o hen alawon, gyda’i wraig Phyllis Kinney.

Fe ddaw Merêd  yn wreiddiol o Danygrisiau, Blaenau Ffestiniog – yr un ardal â’r cyfansoddwr – ac roedd o’n cofio clywed ei fam yn canu Si hwi hwi iddo yn blentyn, fel hwiangerdd i helpu iddo gysgu.

Yn y 1950au, aeth Merêd i fyw yn America i astudio yn Princeton, ac mi gafodd o wahoddiad i recordio casgliad o ganeuon gwerin Cymraeg i label recordiau Folkways – record bwysig gafodd ei dewis fel un o recordiau gorau’r flwyddyn gan y New York Times yn 1954.

Tan hynny, doedd dim cofnod o’r gân a’r alaw gyda’i gilydd yn bodoli, felly mae’n debyg byddai’r gân wedi diflannu pe byddai Merêd heb ei recordio. Ac mae’r recordiad hwnnw , ar ryw ystyr, yn cwblhau’r cylch – ganrif union ar ôl i’r cyfansoddwr Rowland Walter symud o Flaenau Ffestiniog i’r Unol Daleithiau a chyfansoddi’r gân, dyma Merêd yn gwneud yr un siwrne er mwyn recordio’r gân a’i rhoi ar gof a chadw. Mae Merêd ei hun yn ran annatod o hanes y gân.

Ganol mis Ionawr eleni, ges i sgwrs ffôn efo Merêd am Si hwi hwi. Sgwrs ddifyr eithriadol ac roeddwn i ar y ffôn am tua awr a hanner – mwy neu lai yn trafod un gân! Er ei fod yn 95 oed, roedd ei feddwl yn finiog a’i gof yn anhygoel. Gyda thristwch mawr y clywyd am ei farwolaeth wythnos diwethaf – mae’n dyled ni’n fawr iddo. Ond mae o wedi ein gadael efo cyfoeth o ganeuon i’w trysori, i’w dehongli, i’w hail-ddiffinio ac, yn bennaf oll, i’w clywed.

Merêd (llun Iestyn Hughes)

Merêd (llun Iestyn Hughes)

Mae ‘na deyrngedau arbennig wedi bod i Merêd – gallwch ddarllen rhai yn yr erthygl hon ar Cymru Fyw.

Gyfeillion, mwynhewch yr anhygoel Meredydd Evans yn canu Si hwi hwi.

spotify:track:3ZpHYvSla9f4R2GK5WrsrI

Er cof annwyl iawn am Merêd.

 


1 Comment

Yn ddistaw bach

[This blog is also available in English]

Un o bleserau mawr mynd i’r stiwdio, yn enwedig at y cynhyrchydd Frank Naughton, yw y cyfle a’r amser i arbrofi gyda sain. Sori os yw hynny’n swnio ychydig yn hunan-faldodus, ond mae ymgolli mewn sain yn rhan ganolog o’r broses recordio!

Mi wnes i grybwyll mewn blog cynharach bydd yr albym newydd yn teimlo ychydig yn fwy byw ac amrwd na’r ddau albym cyntaf, a ‘da ni wedi bod yn arbrofi gyda ffyrdd gwahanol o ddal y sŵn yna ar record.

Yn rhyfedd ddigon, un o’r offerynnau mwyaf pwysig mewn unrhyw stiwdio yw un sy’n gwneud dim sŵn o gwbl – y microffon. Dwi wedi fy nghyfareddu gan ddefnydd Frank o hen ficroffonau i recordio rhai o’n sesiynau byw. Un o’r rhain yw’r mic rhuban Reslo, oedd yn boblogaidd iawn yn y 60au:

The Reslo Ribbon Mic

Mic rhuban Reslo (‘Reslo Ribbon Mic’)

Mae’r microffon i’w weld yn y fideo yma o’r Beatles yn perfformio ‘Some Other Guy’ yn fyw yn y Cavern yn 1962:

 

Microffon arall dwi wirioneddol wedi cynhesu ato yw’r hyfrydbeth yma o’r 1950au:

Grampian dynamic mic

Mic dynamig Grampian

Mae’r mic dynamig Grampian yn edrych yn fendigedig ac yn swnio’n gryg ac yn arw – fel hen radio transistor – ac yn dal yr elfen amrwd roeddwn i’n sôn amdani. Dyma glip o sut mae un o’n caneuon newydd, A house by the sea, yn swnio wedi ei recordio yn y stiwdio gan ddefnyddio y microffon Grampian:

 

A dyma sut mae’n swnio yn defnyddio microffonau mwy cyfoes:

 

Be ‘di’r farn? Dwi’n eitha hoffi teimlad amrwd y Grampian, ond efallai y byddwn ni’n defnyddio cymysgedd o feicroffonau hen a newydd yn y mics terfynol. Amser a ddengys.

Yn y cyfamser, dwi am eich gadael gyda recordiad arbennig gan ŵr wnaeth feistroli’r grefft o ddal hanfod perfformiad byw yn defnyddio un neu ddau ficroffon yn unig. Alan Lomax (1915-2002) oedd un o gasglwyr cerddoriaeth werin mwyaf amlwg yr 20fed ganrif, a bu’n teithio’r byd yn recordio cannoedd o gerddorion – yn cynnwys yma yng Nghymru.

Mae’r recordiad yma o Viola James yn canu I’m Going Home to Live with Jesus yn dod o daith Alan Lomax o ardal ddeheuol yr Unol Daleithiau yn 1959-1960, yn defnyddio peiriant tâp Ampex 602-2:

I glywed mwy o recordiadau Alan Lomax, yn cynnwys ei waith yng Nghymru, ewch i wefan yr Association for Cultural Equity. Ar y wefan, dwi wedi dod ar draws recordiadau a wnaeth yn Nhreorci, ond rhowch wybod os ydych chi’n llwyddo i ffeindio mwy.


2 Comments

Daeth Dan am dro i’r stiwdio

[Click here for an English version of this blog post]

Dyma Dan.

Dan Green

Dan Green

Mae Dan yn ffotograffydd, yn hytrach na gitarydd (er ei fod, mae’n debyg, yn hoffi dablo efo’r gitar o dro i dro).

Nes i gyfarfod Dan am y tro cyntaf pan drefnodd ŵyl gelf/gerdd yng Nghaerdydd yn 2011 o’r enw Big Little City, lle ges i’r fraint o berfformio.

Ar hyn o bryd, i gyd-fynd a Chwpan Pêl-droed y Byd, mae ganddo arddangosfa yn Cardiff MADE yn y Rhath. Enw’r prosiect ydy Roath Rec World XI ac mae’n dogfennu gweithgarwch criw o bobl lleol sy’n dod at ei gilydd i chwarae pêl-droed ym mharc chwarae y Rhath – “a celebration of multiculturalism and the beautiful game”. Bues i lawr i weld yr arddangosfa – darn o waith hynod wreiddiol a dadlennol sydd yn tanlinellu ehangder pêl-droed – yn rym i allu tynnu pobl at ei gilydd.

Ta waeth, nôl at y gerddoriaeth… a daeth Dan heibio’r stiwdio yn ddiweddar i dynnu ychydig o luniau.

Mae’r stiwdio dan sylw yn cael ei redeg gan gynhyrchydd a cherddor hynod dalentog o’r enw Frank Naughton, sydd wedi gweithio gyda llu o artistiaid arbennig o MC Mabon i Geraint Jarman. Dyma lle ‘da ni’n recordio’r albwm newydd (sef yr un stiwdio lle wnaethon ni recordio rhan fwyaf o’r ddwy albwm gyntaf) ac mae’n le sydd yn ysbrydoli.

Mae gan Dan Green y ddawn o ddal ar gamera rhai o’r hynodweddau sydd o’n cwmpas. Os gwrandewch yn ofalus iawn ar y record (unwaith y bydd allan), efallai y clywch chi swn clicied ei gamera yn agor a chau… o hyd i’r curiad wrth gwrs! O’r 352 o luniau anfonodd Dan ataf i wedyn, am y tro, dwi wedi dewis llond llaw i’w rhannu yma.

Gobeithio, felly, y byddwn chi’n mwynhau y detholiad bach yma o’i luniau (cliciwch ar y llun cyntaf i weld yr oriel yn llawn):

 


Ac i gloi, cymrwch funud i fwynhau y clip byr yma o Odetta yn canu Waterboy:


1 Comment

Adar mân Bro Morgannwg

[Click here for an English version of this blog post]

Yn ystod y misoedd diwethaf, wrth baratoi ar gyfer yr albym newydd yma, rydan ni wedi bod yn ymarfer a jamio mewn llefydd eitha’ arbennig.

Gan ein bod yn recordio’r albym yn fyw fel band, mae’r ymarferion cyn mynd i’r stiwdio llawn cyn bwysiced a’r cyfnod recordio ei hun. Ac mae cael y lleoliad cywir i allu ymarfer yn bwysig.

Heblaw am gartrefi ein gilydd, rydan ni wedi bod yn lwcus iawn i ymarfer cryn dipyn yn y capel lleol – lle sydd yn agos iawn at fy nghalon am sawl rheswm. Ac mae ‘na rhywbeth arbennig am acwsteg capel – y nenfwd uchel, y seddi pren, y gofod agored – sy’n creu sain byw unigryw.

Image

Ond rydan ni hefyd wedi bod yn jamio mewn un lle arall arbennig – Tŷ Crwn ym Mro Morgannwg. Cafodd y tŷ ei godi gan ein drymiwr Iolo a’i ffrindiau, ac mae’r cynllun wedi ei selio ar dai crwn o’r Oes Haearn. Mae’n le gwbl anhygoel – waliau trwchus, to gwellt, ffenestri bach sgwar, mosaic anhygoel yng nghanol y ‘stafell – ac mae ‘na sawl cerddor arall wedi cael ei ysbrydoli gan y gofod. Dyma lle recordiodd Gwyneth Glyn a Tauseef Akhtar eu prosiect arbennig Ghazalaw er enghraifft.

Yn ddiweddar, ar noson fwyn o wanwyn mi fuon ni yno yn ymarfer (fi, Iolo Whelan, Bethan Mai a Lucy Simmonds) ac roedd cân yr adar yn y coed cyfagos yn glir iawn. Felly, dwi wedi rhoi ychydig o luniau at ei gilydd gyda thrydar yr adar yn gyfeiliant i’r cyfan. Ymlaciwch, a gwrandewch yn astud ar symffoni adar mân Bro Morgannwg!

 

Nes i hefyd addo byswn i’n rhannu efo chi rhai o’r caneuon ac artistiaid sydd wedi bod yn llenwi fy nghlustiau yn ystod cyfnod cyfansoddi’r albym newydd, felly dyma John Jacob Niles yn canu Go ‘Way From My Window: